Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
19 Ionawr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11171
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rhun ap Iorwerth (Ynys Mon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynllun brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru yn dilyn adroddiadau mai polisi Llywodraeth Cymru yw dosbarthu’r cyflenwad presennol o frechiadau yn raddol yn hytrach nac anelu i frechu cymaint o bobl â phosib yn y cyfnod byrraf posib?
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.53
Gofynnwyd cwestiwn 1 a chwestiynau 3-9. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.57
3 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.15
4 Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau
Dechreuodd yr eitem am 16.12
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adroddiad Blynyddol Estyn 2019/20
Dechreuodd yr eitem am 16.45
6 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.26
NDM7546 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.35
NDM7545 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM7544 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 1 - 3;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 4 - 6;
d) Atodlen 2;
e) Adrannau 7 - 10;
f) Atodlen 3;
g) Adran 11;
h) Atodlen 4;
i) Adrannau 12 – 14;
j) Atodlen 5;
k) Adrannau 15 – 16;
l) Atodlen 6;
m) Adrannau 17 – 18;
n) Teitl hir.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cyfnod pleidleisio
Ni chafwyd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2021